Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

Notice Board / Hysbysfwrdd

 
Cymanfa'r Sui am 2014

 
Dewch i'r Gymanfa Flynyddol a gynhelir gan Gymdeithas Dydd yr
Arglwydd yng Nghymru a hynny ar Sui, Mehefin 29, 2014


CYMANFA YNG NGOGLEDD CEREDIGION MEWN DAU LE GWAHANOL


OEDFA'R BORE AM 11-15 yn y MORLAN, ABERYSTWYTH.
Uywydd- Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd Cymerir rhan gan blant a phobl ieuainc 0 eglwysi Presbyteraidd Gogledd Ceredigion.


Daprerir lIuniaeth ar gyfer yr ymwelwyr.


OEDFA'r Prynhawn yng Nghapel y Presbyteriaid Penygarn, Bow Street am 2 o'r gloch. ar y thema Cofio 'r Cewri a luniodd y Gymru Anghydffurfiol--
Howell Harris ( 1714=1773) a Thomas Charles o'r Bala (1768-1814) . Traddodir y neges gan y
Parchedig Athro D. Ben Rees, Lerpwl
Uywydd-y Parchedig Aled Jenkins
Cymerir y defosiwn gan y Parchedigion Judith
Morris a Wyn Morris.
Croeso mawr i bawb i'r Garn ac i'r Morlan.

 



ORDER

Your copy of Inheritance two issues (February and October)

Price £1 (for both issues by post)

Send to for your copies

 

ARCHEBWCH

Eich copïau o Etifeddiaeth (Chwefror a Hydref) Dau rifyn y flwyddyn.

Pris am y ddau £1

Anfoner yn ddiymdroi i Dr D. Ben Rees,

32 Garth Drive Liverpool L18 6HW

neu trwy e-bost:


 

Gair Cymwys

Meddwl am bobol Cymru mae’r Prifardd Einion Evans, a gweld y dirywiad yn eu harferion gorau, yn arbennig cadwraeth y Sul.

 

CYMRY
Yma,a’r Wyl yn ein hymyl,-rydym
mewn Ysbrydol helbul.
Yn lychwin genedl wachul
molwn Sant, malwn yn Sul.

Emyn Tangnefedd

Tangnefedd rho O Arglwydd
I deulu gwael y llawr,
Sy’n byw mewn dudew adfyd,
A llawer gyfyng awr.
A cofia Di y gwledydd
Y newyn yno sydd
,Rhai hynny mewn cadwynau
Yn rhodio eto’n rhydd.
 
Tra rhwd anrhydedd cleddyf
Y maes yn rhydd o waed
A therfyn ar bob rhyfel -
Tangnefedd fu’n y wlad,

Tydi fu’n gwella cleifion,
Bendithio plant y byd-
Gwyn fyd na welwn eto
Genhedloedd oll ynghyd.
 
Wrth feddwl am eneidiau
Mil filoedd o rai trist,
Sydd eisoes wedi colli
Eu gafael ar y Crist
O ddysg i ninnau eto,
A dwyn ni eto nôl-
Y Bugail sy’n y gorlan,
Tangnefedd yn ei gôl.
 
A phan ddaw’r awr i ninnau
Ymadael draw i’r llen,
A cheefnu ar y ddaear-
Yr Arglwydd fydd yn ben.
Tangnefedd gawn pryd hynny,
Cawn wisgo coron gain,
Yr anthem bêr yn seinio,
Ddiddwedd fydd y sain
                   Margaret G. Griffiths Llaingoch

 

Y GORNEL WEDDI

O edrych yn awr, O Arglwydd, ar Gymru
Gwêl hi heddiw yn nyfnder ei gwarth

Y Saboth a roddaist yn syberwyd y
 myfyrdod santaidd, nyni a’i halogodd
a’i dorri ar gylch ein holwynion.
 
O Arglwydd y cenhedloedd, nac
 anghofia’r genedl a geraist;
Wyliwr yr holl ardaloedd, diwel dy
 wlith ar Walia wen.
(Rhan o "Salm y Genedl" gan Jennie Eirian.)
                                  M.W.J.

 


Top of Page