Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"

 

GALWAD I ADDOLI AR Y SUL YN YR AMERICA
A CALL TO WORSHIP ON SUNDAYS IN AMERICA


Cymanfoedd y Sul a drefnwyd gan Cymdeithas Dydd yr Arglwydd
yng Nghymru o 1995 i 2010

     1995      Capel Tegid y Bala ar Sul 7 Mai

     1996      Capel Tegid y Bala ar Sul 5 Mai

     1997      Capel Heol China, Llanidloes ar Sadwrn 17 Mai

     1998      Carmel, Conwy ar Sul Mai 3

     1999      Capel y Drindod, Pwllheli ar Sul 2 Mai

     2000      Seilo, Llanbedr Pont Steffan ar Sul 25 Mehefin

     2001      Gohiriwyd y Gymanfa oherwydd clwy’r traed a’r genau. Y bwriad oedd ei chynnal yn
                  Nyffryn Clwyd

     2002      Capel Soar-y-Mynydd ar Sul 16 Mehefin

     2003      Capel y Bedyddwyr, Blaenwaun ger Llandudoch ar Sul 29 Mehefin

     2004      Capel yr Adfa ger Llanfair Caereinion ar Sul 27 Mehefin

     2005      Capel Moriah, Casllwchwr ar Sul 26 Mehefin

     2006      Capel Tegid y Bala (o dan fendith Cyngor Cytûn y dref) ar Sul 25 Mehefin

     2007      Capel Presbyteraidd Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin ar Sul 24 Mehefin

     2008      Capel Bethel, Heathfield Road, Lerpwl ar Sul 29 Mehefin

     2009      Gohiriwyd oherwydd anawsterau ariannol a lleoliad y Gymanfa gan i’r gweinidog
                  symud o’r capel a drefnwyd

     2010      Capel Annibynwyr Saron, Llangeler ar Sul 27 Mehefin

     2011      Bwriedir cynnal y Gymanfa am 3 o’r gloch a 5.30 yng Nghapel Cymraeg Seion,
                  Croesoswallt ar Sul 26 Mehefin
 



Gwybodaeth am y Cymanfaoedd

Llywyddion, Cenhadon ac Arweinwyr y Gân yng Nghymanfaoedd
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru


1.     Cymanfa 1995 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd:       Y Parchedig Gwilym O Jones, Croesoswallt
                Annerchiad:   Mrs Marian Lloyd Jones, Rhosllanerchrugog
                                    Patrwm y Sul i’r Ganrif Nesaf

        b)     Hwyr
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
                Brian M Griffiths, Capel Tegid
                Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr

2.     Cymanfa 1996 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
                Annerchiad: Dr John G Williams, Lerpwl
                Tystiolaeth yr Eglwys Heddiw:

        b)     Hwyr
                Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
                Brian M Griffiths, Capel Tegid
                Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr
                Anerchaid:   Y Parchedig Brian M Griffiths

3.     Cymanfa 1997 yn Llanidloes
        a)     Prynhawn
                Llywydd:      Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Annerchiad:  Y Parchedig W Eifion Powell -
                                   Y Sanctaidd a’r Brenhinol Ddydd

        b)     Hwyr
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion J Pinion Jones a D Ben Rees
                Anerchiad: Y Parchedig Dewi Wyn Williams, Dolgellau

4.     Cymanfa 1998 yng Nghonwy
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Anerchiad:  Y Parchedig J Haines Davies, Hen Golwyn -
                                 Hawliau Dydd yr Arglwydd

        b)     Hwyr
                Neges arbennig gan Y Gwir Barchedig Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru

5.     Cymanfa 1999 ym Mhwllheli
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Anerchaid:  Ms Nia Rhosier, Pont Robert

        b)     Hwyr:
                Llywydd:     Y Parchedig Dr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedig William Davies

6.     Cymanfa 2000 yn Llanbedr Pont Steffan
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Anerchiad:  John Walter Williams, Y Bala
                                 Cadwraeth y Sul a’i Oblygiadau

        b)     Hwyr
                Llywydd:     Y Parchedig J Elwyn Jenkins
                Anerchiad:  Y Parchedig Ddr D Ben Rees

7.     Cymanfa 2001 - gohiriwyd

8.     Cymanfa 2002 yn Soar y Mynydd
        a)     Prynhawn – Oedfa Bregethu
                Llywydd:     Y Parchedig Aled G Jenkins, Hwlffordd
                Pregethwr:  Y Parchedig Desmond Davies, Caerfyrddin
                Unawdydd:  Mrs Lavina Thomas, Llandeilo

        b)     Hwyr - Oedfa o Fawl
                Llywydd:     Y Parchedig Dr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mrs Delyth Hopkin Evans, Pontrhydygroes

9.     Cymanfa 2003 yn Blaenwaun, Llandudoch
        a)     Prynhawn – Oedfa Bregethu
                Llywydd:    Y Parchedig G Aled Jenkins
                Pregethwr: Y Parchedig Tudor Davies, Aberystwyth

        b)     Hwyr – Oedfa o Fawl
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  John S Davies, Efailwen

10.   Cymanfa 2004 yn yr Adfa
        a)     Prynhawn – Oedfa Bregethu
                Llywydd:    Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Pregethwr: Y Parchedig Megan Williams, Dolgellau

        b)     Hwyr – Oedfa o Fawl
                Llywydd:       Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:    Mr R Ifor Griffiths, Lerpwl
                Organyddes:  Mrs Margaret Anwyl Williams
 
11.   Cymanfa 2005 yn Moriah, Casllwchwr
        a)     Prynhawn - Darlith - Evan Roberts a’r Diwygiad
                                  gan Y Parchedig Ddr D Ben Rees

        b)     Hwyr - Cymanfa’r Diwygiad
                Llywydd:      Y Parchedig G Aled Jenkins
                Unawdwyr:   Teifryn Rees a Helen Gibbon
                Arweinydd:   Alan Frewster, MBE, Llangennech
                Organydd:    Y Parchedig David Jones, Llanelli

12.   Cymanfa 2006 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Annerchiad: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                                  Teulu Duw

        b)     Hwyr
                Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedig Eric Greene
                Traddodwyd yr Homili gan y Parchedig Dafydd Rees Roberts, Llanuwchllyn

13.   Cymanfa 2007 yn Nantgaredig
        a)     Oedfa’r Bore gyda’r plant a’r ifanc
                Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
                Traddodi’r Neges: D Nigel Davies

        b)     Oedfa’r Prynhawn – Gymanfa Ganu
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mr Gwyn Nicholas, Ffynnon Henri
                Traddodi’r Genadwri: Mr Havard Gregory, Caerdydd

14.   Cymanfa 2008 yn Lerpwl
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig D Ben Rees
                Anerchiad:  Y Parchedig Ddr Elfed ap Nefydd Roberts, Wrecsam
                                  Ffydd a Diwylliant

        b)     Hwyr
                Llywydd:     Yr Athro Mari Lloyd Williams,
                                  Prifysgol Lerpwl a Chapel Waungoleugoed
                Arweinydd:  Mr R Ifor Griffith
                Organydd:   Mrs Margaret Anwyl Williams

15.    Cymanfa 2009 - Gohiriwyd

16.    Cymanfa 2010 yn Saron, Llangeler
        a)     Oedfa’r Bore
                Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
                Anerchiad: Mr Nigel Davies

        b)     Oedfa’r Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mrs Margaret Daniel, Aberporth

 


Cymanfa Dydd yr Arglwydd 2010

 gan y Parchg D Ben Rees 

Mae disgwyl mawr yng ngodre Ceredigion am Gymanfa’r Sul a gynhelir ar Sul 27 Mehefin yng Nghapel Saron, Llangeler ger Llandysul yng Nghyfundeb Ceredigion.  Y mae gan yr Annibynwyr gapel arall o’r enw Seilo yn un plwyf ond fod y capel hwnnw yn perthyn i Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin.  Yn rhyfeddol iawn mewn dyddiau fel ein dyddiau ni y mae gan y ddau Gapel bob i Weinidog.  Bugail Saron (lle cynhelir y Gymanfa) yw’r Parchedig Aled Jones, MA MTh BD.  Bydd ef yn cymryd rhan yn oedfa’r prynhawn, a da fydd ei gyfarfod gan iddo fod yn weinidog ar Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant, Toronto, ac yn dysgu yn Ne Affrig cyn derbyn galwad i Saron, Llangeler, Carmel, Prengwyn a Soar, Penboyr yn 2009.  Gweinidog Seilo Llangeler ers 1998 yw’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, LLB, BD,  Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni.  Edrychwn ymlaen at ei weld yntau yn un o’n cyfarfodydd gyda’i braidd.

            Cynhelir fel y gwyddoch ddau gyfarfod.  Eleni bwriadwn ganolbwyntio ar y plant a’r ieuenctid yn oedfa’r bore am 10.30 o’r gloch, o dan lywyddiaeth y Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd, Llywydd Pwyllgor De Cymru o’r Gymdeithas.  Cymerir rhan gan ieuenctid y for a chawn am yr eildro gwmni a chyfraniad Mr Nigel Davies, Sân Clêr ac un a gyfrannodd yn helaeth i ieuenctid capeli Sir Gaerfyrddin.  Nid anghofir ei gyfraniad yn 2007 yn yr oedfa a drefnwyd gan y Gymdeithas yn Nantgaredig yn Nyffryn Tywi.

            Darperir lluniaeth am bris o £3 gan chwiorydd Saron ar ein cyfer rhwng y ddwy oedfa a disgwyliwn nifer dda i aros i’r ddarpariaeth haelionus yma.  Caiff y plant eu bwydo am ddim ond disgwylir i ni oedolion helpu’r sefyllfa’n ymarferol.

            Yna am 2 o’r gloch byddwn yn ailgyfeirio ein camrau i’r cysegr ar gyfer oedfa i Foliannu’r Arglwydd o dan arweiniad Mrs Margaret Daniel, Aberporth ac Ysgrifennydd Cyhoeddiadau capel enwog Blaenannerch, lle y bu'r seraff-bregethwr, y Parchedig M P Morgan yn weinidog am dros 60 mlynedd.  Gwyddom am ddawn fawr Mrs Margaret Daniel (wedi’r cyfan mae’n chwaer i’r athrylith a gollwyd Awst y llynedd, y Prifardd Dic Jones, yr Hendre) fel arweinydd dau gôr ac arweinydd cymanfaoedd canu.  Y tro hwn bodlonodd BBC Radio Cymru ddod atom i recordio’r gwasanaeth ar gyfer Caniadaeth y Cysegr.  Y mae Capel Saron wedi cydweithio â Phwyllgor Gwaith y Gymdeithas i drefnu Cymanfa i’n hysgogi i addoli Duw yn ein cysegr ac i’n calonogi ni oll i fod yn llawn gobaith wrth seinio moliant i’r Arglwydd ar y dydd unigryw.  Erbyn hyn crwydrodd y Gymanfa i lawer bro, o’r Bala i Bwllheli, o Lanidloes i Lerpwl, o Soar-y-mynydd i Siloh, Llanbedr Pont Steffan, o Blaenywaun, Llandudoch i Gasllwchwr lle y cafodd Evan Roberts ysbryd Duw yn ei gynnal, o Adfa yn Sir Drefaldwyn i Soar, Llangeler a Nantgaredig.  Pob un o’r bröydd hyn wedi elwa o ddyfodiad y Gymanfa a mawr obeithiwn y cawn weld cefnogwyr y Gair a’r Gân yn dod ynghyd ar Sul 27 Mehefin 2010 i Langeler.  Lluniodd un o weinidogion a fagwyd yn y cylch, y Parchedig John Gwilym Jones englyn crefftus i lansio Caneuon Ffydd ddeng mlynedd yn ôl.  Mae neges yr englyn yn berthnasol i ni ym Mehefin 2010: 

            Cynhaeaf y Caneuon – rown i wlad,
            Rhown lyfr mewn gobeithion
            Y daw Duw, drwy’r gair a’r dôn,
            Eilwaith i hawlio’i chalon. 

Diolch yn llu i Gymanfa Llangeler.

 


 

Cefndir ac Amcanion
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru



 

Cymdeithas Dydd yr Arglwydd

Y mae addoli yn angenrhaid i’r teulu Cristnogol a bu Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yn gyfrwng hybu tystiolaeth am y Sul ar hyd y cenedlaethau. Ni fu’r flwyddyn ddiwethaf yn hawdd i’r Gymdeithas oherwydd y sefyllfa economaidd o’n hamgylch ac yn ein cyfarfyddiad yn Aberystwyth yn niwedd Ebrill penderfynwyd galw sylw at ein hangen am gefnogaeth haelionuss aelodau ein heglwysi, a’n heglwysi llawer ohonynt yn barod iawn eu cymwynas, a’r enwadau oll.

Apêl Ariannol
Dylid anfon y cyfraniadau hyn at ein Trysorydd newydd, Mrs Margaret Jones, un o weithwyr brwd yr Eglwys Bresbyteraidd yng nghylch Afan ac Ogwr. Dyma’r manylion lle y dylid anfon y cyfraniadau: Mrs Margaret Jones, 2 Brockway Close, Baglan, Port Talbot, SA12 8EL. Bydd ein Trysorydd yn falch iawn o dderbyn pob cyfraniad er mwyn i ni gyflawni ein gwaith pwysig o gyhoeddi y cylchgrawn dwyieithog, Etifeddiaeth. Gobeithiwn y gwel hwn olau dydd ar ffurff cylchlythyr yn ystod haf 2009.

Gohirio Cymanfa’r Sul
Ar gair arweinwyr Capel Saron, Llangeler gohiriwyd Cymanfa Sul 2009 i 2010, a bodlonodd Pwyllgor Gwaith y Cymdeithas. Bydd y Gymanfa 2010 yn cael ei chynnal ar Sul, 27 Mehefin yn Llangeler. Dwy oedfa. Y boe am 10.30 o’r gloch yng nghwmni’r plant a’r ieuenctid, yna cyfle i gymdeithasu a mwynhau lluniaeth cyn mynchu y Gymanfa Ganu am 2 o’r gloch. Da oedd cael cwmni tri o selogion Capel Saron yn ein cyfarfyddiad i drafod y weledigaeth a byddwn yn cadarnhau yr holl drefniadau yn ein cyfarfyddiad ym mis Tachwedd.

Dymuno’n dda
Dymunwn yn dda i’r Parchedig Eifion Wynne, Dowlais ar ôl ei waeledd gan ein bod yn gweld ei golli yn fawr o’n plith. Ef yw Ysgrifennydd derbynadwy Cymanfa Dwyrain Morgannwg o Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwasanaethodd gapeli Cymraeg ei enwad yn Dowlais ers 1982. ‘Da was, da a fyddlon’ ydyw ym mhob cylch o’n tystiolaeth i Grist, gan gynnwys y Gymdeithas hon.

D Ben Rees
(Ysgrifennydd Mygedol)

Cefndir

SefydIwyd y Gymdeithas yn y tridegau ac am flynyddoedd bu gan y Gymcleithas ysgrifennydd llawn amser. Y Parchg R T Gregory oedd y sylfaenydd ac fe'i dilynwyd gan y Parchg Trefor Griffiths a chafodd y Gymcleithas gefnogaeth gref dros y blynyddoedd. Deil y Gymcleithas yn weithgar ond y mae hi'n fwy anodd o lawer erbyn hyn i gael y gefnogaeth a deilynga. Er hynny mae gan y Gymdeithas weinidogion a lleygwyr yn y de a'r gogledd sydd yn barod i wasanaethu'n gydwybodol. Cynhelir Pwyllgor y De Mwywaith y ftwyddyn ym mis Ebrill neu Mai yn Abertawe ac yrn mis Hydref neu Dachwedd yn Aberystwyth. Bydd Pwyllgor y Gogledd bob amser yn cyfarfod ym mis Mehefin yn y Bala. Gwasanaetha'r Parchg G. Aled Jenkins, HwIffordd yn Gadeirydd Pwyllgor y De a'r Parchg Gwilym 0. Jones, Croesoswallt fel Cadeirydd Pwyllgor y Gogledd. Gofelir am y drysoryddiaeth gan Mrs Eira Evans, Llansamlet a'r ysgrifennydd ar gyfer Cyrnru gyfan yw'r Parchg Ddr D Ben Rees.

Athroniaeth y Mudiad

Credodd y Gymcleithas o'r cychwyn fod dydd cyntaf yr wythnos, y Sul, yn ddiwrnod pwysig i bob Cristion ac i'r gymcleithas Gristnogol. Credwn yn gyntaf mai diwrnod yn rhydd o waith ydyw, ac er 1992 bu hi'n drist i weld siopau a masnachdai yn anghofio un o hanfodion y Sul. Ordeiniodd Duw orffwys a llawenydd a hamddena yn ogystal A gwaith a gorchwyl busnes. Y mae'r naill mor bwysig Wr llall, a'r naill yn angenrheidiol Pr llall. Ni ellir gorffwys na hamddena heb weithio na gweithio heb orffwys a hamddena, y mae'r ddau yn hanfodol i'w gilydd.
Yn ail, diwrnod i wneuthur daioni. Dyna ydyw pob ~ diwrnod o dan benarglwyddiaeth Duw ond y mae'r Sul yn unigryw. Y ffordd orau i gadw'r Dydd fel ag y dylid ydyw edrych ar esiampl yr Arglwydd lesu ei bun, Arglwydd y Dydd. Ni chredai Iesu y dylid troPr Dydd yn ddydd heb gyflawni iachfid ar y person oedd mewn angen, ac ni chredai y dylid gadael i anifail foddi yn y ffos am y byddai'n anghywir ei godi allan o'i gyflwr enbydus. Ta faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad?' Telly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabathau.' Dyma ni gyda rheol euraidd Dydd yr Arglwydd - gwneud daioni Duw yn nhir y rhai byw. Da yw mynd Pr cysegr ar y Sul, a phob adeg, ond godidocach yw gwneud daioni i'r anghenus sydd yn galw am yrnwared.
Gwir y byddai'r lesu yn mynychu 'ty' cwrdd', y Synagog ar y Saboth, ond cofier hefyd ei fod yn mynd am dro trwy'r caeau yd gyda'i ddisgyblion, yn caniatau iddynt dynnu'r tywys wrth fynd heibio'r gwenith, ac yn eu harriddiffyn rhag y beirniaid am wneud hynny trwy ddweud fod y Saboth wedi ei wneuthur er mwyn dyn, a'i fod Ef ei Hun yn Arglwydd ar y Saboth, a phe buasai tynnu'r tywys yn bechod, yn sier, fuasai Arglwydd y Dydd ddim yn caniatau i'w ddisgyblion ei Hun gyflawni hynny.
Yn drydydd diwrnod i addoli Duw. Dydd Duw ydyw, dydd i gyflwyno ein diolchgarwch, i gael ein hysbrydoli gan Air Duw, i foliannu ae i weddio, i hyfforddi'r plant a chysuro a golew ac ysbrydoli'r oedolion. Cyfle i weinyddu'r sacramentau a chyfle i gyhoeddi'r newyddion da. Amcan uchaf pregethu yw dysgu ac argyhoeddi ac adeiladu pobl Dduw. Nid oes rhaid cynnal dwy oedfa, yn wir mae gennyf brofiad o weinidogaethu fel bugail eglwys am dros ddeugain mlynedd, ac yr wyf yn gwbI grediniol fod un oedfa yn ddigonol i fwyafrif mawr o'n pobl, ac yn ddigon hefyd i'r cennad ei hun fel mae'r Anglicaniaid mewn Eglwysi Cadeiriol yn ei warchod. Mater personol yw hynny ac mewn oes o brinder ni ellir deddfu na chael unffurfiaeth dim ond diolch am y 'blychau ennaint' sy'n gwarchod neges Duw a'i fab Iesu Grist mewn cymdeithas sy'n Ilwenhau am rymusterau'r Ysbryd Glan.

Gweithearwch y Gymdeithas

Gellir rhannu'r gweithgarwch i bedwar categori:
i) Yn gyntaf cydwybod yn y gymdeithas a'r genedl. Rydym yn lolvio gwleidyddion, yn llunio cenadweiau i fudiadau sy'n anghofio gwerth y Sul, ac yn magu barn ar gwestiwn y Dydd fel canolbwynt ein gweithgareddau.
ii) Yn ail gwasanaethu'r eglwysi a'r capeli trwy baratoi deunydd addas ar gyfer oedfaon y Sul. Cyhoeddwyd cyfrolau ar hyn a fu o fudd mawr ac sy'n cael eu gwerthfawrogi.
iii) Cyhoeddi cylchgrawn dwyieithog ddwywaith y flwyddyn o'r enw Etifeddiaeth / Inheritance, sydd yn cynnwys rhestr o gymwynaswyr a chyfranwyr y Gymdeithas a'r fantolen flynyddol yn ogystal ag erthyglau ar bynciau yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol. Dylai pob eglwys sy'n cyfrannu i gyllid y Gymdeithas dderbyn y cylchgrawn hwn a gofalu fod eraill o'r aelodau yn gwybod am y dystiolaeth.
iv) Yn bedwerydd, y,gwaith addysgol, a chymer hyn llawer dull. Y mae swyddogion y Gymdeithas yn barod iawn i annerch cyfarfodydd o bob math, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn ystod y deg mlynedd diwethaf bu Dr D Ben Rees yn annerch cyfarfodydd chwarter, Henaduriaethau, Cyngor Eglwysi Rhyddion led led Cyrnru. Golyga hyn dderbyn manteision y cyfryngau a Ilwyddwyd yn hyn o beth, ac er 1995 cynhaliwyd yn flynyddol Cymanfa'r Sul ar gyfer selogion y Gymdeithas ac fel dathliad o'n tystiolaeth eleni ar bnawn Sul, 25 Mehefin 2005 cynhaliwyd y Gymanfa yn Moriah, CasIlwchw am 2 o'r gloch a 4.15 o'r gloch a chafwyd cefnogaeth dda. Bu'r Cymanfaoedd mewn mannau cyfleus yn y de a'r gogledd a bu'r ymweliad yn dderbyniol iawn yn y cylchoedd hyn.
Bwriedir cynnal Cymanfa 2006 ar Sul, Mehefin 25 yng Nghapel Tegid Y Bala a chroesewir eto'r pererinion ynghyd.