Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"



Etifeddiaeth
Inheritance


Cylchgrawn              CYLCHG RA WN CYMDEITHAS              Bilingual
Dwyieithog         DYDD YRARGLWYDD YNG NGHYMRU         Magazine



THE MAGAZINE FOR THE FELLOWSHIP OF THE LORD'S DAY IN WALES
 
Cyfrol/Volume 2010 - Rhif/Number 1 - Pris y Cylchgrawn: £1.00
"Cofia y Dydd Saboth i'w Sancteiddio Ef" - (Exodus 20:8)
"Remember the Sabbath day by keeping it holy" - (Exodus 20:8)



SWYDDOGION CYMDEITHAS DYDD YR ARGLWYDD YNG NGHYMRU AM 2010
OFFICERS OF THE FELLOWSHIP OF THE LORD'S DAY IN WALES FOR 2010


Cadeirydd Pwyllgor y Gogledd/ Chairman of the North Wales Committee:
Y Parchg Gwilym O. Jones, Croesoswallt/Oswestry
 
Cadeirydd Pwyllgor y De/Chairman of the South Wales Committee:
Y Parch G. Aled Jenkins, Hwlffordd/Haverfordwest

Trysorydd/Treasurer:
Mrs Margaret Jones, 2 Brookway Close, Baglan, Port Talbot SAl 2 8EL
(Anfoner eich cyfraniadau am 2010 i’r Trysorydd)
 
Ysgrifennydd Cyffredinol a Golygydd/General Secretary and Editor:
Y Parchedig Ddr. Athro D. Ben Rees, 32 Garth Drive, Liverpool, LI8 6HW
FfônITel.: 015 1-724-1989
E-bost: benatgarthdrive@talktalk.net
 


Pob ymholiad i’r YsgrifennyddfEvery communication to the Secretary
Ewch ar we y Gymdeithas — www.lordsdayinWales.co.uk

 




Neges o Eglwys Gadeiriol Cofentri

Ar Dachwedd 14eg, 1940 hedfanodd awyrenau rhyfel yr Almaen dros ganol Lloegr, a llosgwyd Eglwys Gadeiriol Cofentri i'r lIawr, yr oedd yn hen eglwys yn dyddio o'r Canol Oesoedd.
Adeiladwyd eglwys newydd a chysegrwyd hi yn 1962, adeilad sydd wedi dod yn ganolfan Cymod rhwng rhai fu gynt yn elynion. 0 fewn yr Eglwys mae dwy groes, un wedi ei gwneuthur o hoelion a'r lIall wedi ei gwneud o bren ac arwyddion tan arno. 0 fIaen yr allor lIe gweIir y ddwy groes, cynhelir gwasanaeth byr bob amser cinio, a defnyddir y weddi isod sydd i'w gweled ar blac o fIaen yr allor.

O Dad, Maddau ...
Yr atgasedd sy'n gwahanu cenedl oddi wrth genedl, Ilwyth oddiwrth Iwyth,
dosbarth oddi wrth ddosbarth.
O Dad, Maddau.
Awydd trachwantus cenhedloedd i feddiannu yr hyn nad yw'n eiddo iddynt hwy.
O Dad, Maddau
Y trachwant sy'n ymwelwa ar lafur dynion, ac yn difwyno'r ddaear.
O Dad, Maddau

Ein cenfigen yng ngwydd Ilwyddiant a Ilawenydd eraill.
O Dad, Maddau

Ein difrawder wrth weld cyfIwr y digartref a'r ffoaduriaid.
O Dad, Maddau

Y blys sy'n camddefnyddio cyrff gwyr a gwragedd.
O Dad, Maddau

Y balchder sy'n ein harwain i ymddiried ynom ein hunain ac nid yn Nuw.
O Dad, Maddau

Yn enw'r Iesu, Amen.

Ein Hefifeddiaeth yng Nghrist
gan y Parchg R. Glyn Jones, Glyn Ceiriog

Fel arfer mae ewyllys olaf unrhyw un yn golygu gadael eu holl gyfoeth a'u heiddo i'w ddosbarthu yn ol eu dymuniad. Ni adawodd Iesu unrhyw eiddo materol, na chyfrif banc, na th y na thir. Roedd ei etifeddiaeth o yn gwbwl wahanol.
Gadewch i ni werthfawrogi'n hetifeddiaeth yng Nghrist.
Prif rodd Crist oedd ei dangnefedd. Shalom, yr enw Hebraeg am dangnefedd oedd y gair ddefnyddia'r Iddewon i gyfarch a ffarweIio a rhywun, ac mae'n siwr mai mater o ffurf yn unig ydoedd bellach.
Ond y mae Iesu yn rhoi ystyr newydd iddo. Mae tangnefedd Crist yn wahanol i unrhyw beth gall y byd ei gynnig, o ran math ac yn y ffordd mae'n cael ei roi. Dydy ei ddim yn dibynnu ar amgylchiadau allanol neu diffyg gwrthdaro. Yn wir, mae'n ffynnu ynghanol helbulon.
Fel y dywedodd Dr W. E. Sangster: o dywyllwch Calfaria fe ddaeth y sbardun. Roedd tawelwch Crist yn deiIlia o'i hyder yn naioni ei Dad, yr Arglwydd Dduw, o'i ymddiriedaeth ym mhenarglwyddiaeth Ei Dad, ac o'i ymostyngiad i ewyllys ei Dad. Dydy'r Iesu ddim yn rhoi rhyw fath o gyffur i dwyllo'r galon i fod yn ddibryder.
Dyma dangnefedd y Meseia, shalom teyrnas Dduw, sy'n cael ei sefydlu yng nghanol anghydfod.
Dyma'r tangnefedd adawodd Iesu fel rhodd i'w ddisgyblion anghenus wrth iddo ymadael a'r byd, er mwyn chwalu eu hofnau.
Does neb wedi dangos tangnefedd tebyg i'r Iesu yng nghanol problemau y byd. Gall yr un tangnefedd hwnnw fod yn eiddo i bob un ohonnom, os byddwch yn agored i' w dderbyn. Y mae Ioan 15:27 yn dweud "Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd fy hun", Dyma'r addewid i ni eu hawlio yn enw Iesu Grist. Doedd y tangnefedd a addawodd Iesu i ni ddim yn deillio o fyw mewn lle Paradwysaidd, ymhell oddi wrth densiwn bywyd bob dydd. i'r gwrthwyneb roedd amgylchiadau bywyd Iesu yn llawn cynnwrf, yn union fel heddiw. Roedd pobl yn tarfu'n gyson ar Ei breifatrwydd, ac oherwydd ei fod Y Meseia fe wyddai, mewn ffordd na allai neb arall wybod, am ddigalondid pechod a baich anghenion o'i amgylch. Peidiwch a byth ag anghofio hyn. Pan fydd eich calon yn corddi oherwydd y teimlad eich bod yn anghytuno ag ysbryd y byd, a groeshoeliodd Ein Harglwydd Iesu Grist, mae'n ofynnol i ni gofio fod yr Iesu yn cynnig ei gariad a'i gonsern amdanom. Ef yw ein gobaith am mai Ef yw ein Gwaredwr. Diolchwn iddo am roddi ei fywyd drosom a'n cynnal ar hyd 'troeon yr yrfa'. Addolwn Ef ar y Sul a phob cyfle a ddaw i ni ar y daith.

The Promises of the Lord
by Reverend R. Glyn Jones, Glyn Ceiriog

In the Welsh article in this magazine I have concentrated on the peace that passes understanding but as we study the Scriptures we find God's personal agenda for restored fellowship and a rewarding relationship that satisfies the longings of our souls and glorifies Him. We can expect that God has promised to provide for us in our relationship with Him. The Bible suggests three attainable outcomes of a deepening personal relationship with Him. 1. He will satisfy our souls; 2. He will sustain our lives; 3. He will secure us even in the face of great danger.
What a wonderful promise the Lord has left us. Let us encourage each other by reminding ourselves that God is probably doing a lot of things for us that we don't even know about. These may not be big, dramatic things, but God's Word teaches us that "God stands like a sovereign sentinel at the gates of our lives, keeping out anything that is more than we can bear" (l Corinthians 10:13). He lets in those things that He, by His power and with our cooperation, will turn to His glory and gain and to our good. Paul declares in
Romans 8:28 "We know that God causes all things to work together for good to those who love God to those who are called according to His purpose".

Why then do we put our head on the pillow at night and murmur "Where were You today God? You didn't answer my prayer. Nothing big happened. The day was flat and dull' Instead, we should say with hearts full of gratitude, "Lord, thanks for being busy i my life today in ways I don't even know about. You, by the power of The Holy Spirit, have protected me from the enemy who sought to destroy me. And thanks for the assurance that, as the sovereign sentinel at the gate of my life, what you did let in today, You promised that by Your power You could turn to glory and gain and good". We have to remember that God is a lot busier in our lives than we think. For us to go around thinking that He doesn't do much for us contradicts the reality of His marvelous grace that is in our lives 24 hours a day: guarding, keeping, excluding, insulating, protecting and blessing.
Let us also remember Carys in our prayers, she is working with the street children and in the prisons in the city of Sao Paulo in the land of Brazil. She would be glad to hear from the readers of Inheritance through the internet. You can contact her on carysmary@yahoo.co.uk Isn't God our Sustainer wonderful, that He can use a Christian from Pandy, Glyn Ceiriog in Wales to bring a blessing in far off lands. Be encouraged for He wants to use each one of us in his service. Be encouraged members of the Lord's Day Fellowship in Wales and keep our eyes on the Lord Jesus.

 

 

Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
The Lord's Day Fellowship in Wales

Gofynnir yn garedig i chwi yrru eich sieciau a'ch rhoddion i:
Please send your cheques and donations to our Treasurer:
Mrs Eira Evans, 7 Nantyffin Road, Llansamlet, Swansea, SA 7 9RD,
 neu i'r Y sgrifennydd / or to the Secretary:
Dr D. Ben Rees, 32 Garth Drive, Liverpool, LI8 6HW
erbyn/by: 30 Rhagfyr / December 2008

Gwnewch ei sieciau yn daliadwy i:
'Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru'
Cheques to be made payable to:
The Lord's Day Fellowship in Wales

 G. Aled Jenkins, Gwilym O. Jones, D. Ben Rees, Eira Evans
1 Tachwedd/November 2008

   

To order your copy of Inheritance,
two issues (February and October)

Price £1 (for both issues by post)

Send to for your copies

32 Garth Drive, Liverpool, L18 6HW

ARCHEBWCH

Eich copïau o Etifeddiaeth
(Chwefror a Hydref) Dau rifyn y flwyddyn.

Pris am y ddau £1

Anfoner yn ddiymdroi i ,

32 Garth Drive, Liverpool, L18 6HW

neu trwy e-bost:

 

 

Top of Page