Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 
APÊL /
APPEAL

Cofiwch amdanom:

Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru

"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"


Diolchwn yn gynnes i bob person unigol, Eglwysi a Chyfundebau am eu cefnogaeth gyson.

Eleni eto fe’n daliwyd gan y chwyddiant a bydd cael y ddau pen llinyn ynghyd yn fwy anodd.

Gwyddom y gallwn ddinbynnu ar eich help ymarferol drwy ychwanegiad bychan mewn cyfraniad.

DIOLCH O GALON I CHWI


Ysgrifennwch y siec i

‘Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru’

Danfonwch at y Trysorydd

Mrs. Margaret Jones
2 Brockway Close, Baglan, PORT TALBOT, SA18 8EL

Gorllewin Morgannwg

Dros: Personol.....................................Enwad.................................
          Eglwys
         Cyrff Crefyddol

Enw....................................................................................................

£ .............p

Cyfeiriad...........................................................................................

.............................................................................................................

A oes angen taleb? Oes /Na........................


For a printable form click here



APPEAL

Remember us in your prayers and Gifts

The Fellowship of the Lord’s day in Wales

"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


The Fellowship greatly appreciates the constant contributions of individuals, Churches and Denominations towards its work.

Inflation means rising costs and greater difficulty in getting ends to meet. We know we can depend upon your considered increase in contributions to meet the higher demands.

 

WE THANK YOU SINCERELY


Write your cheque to the Fellowship of the Lord’s Day in Wales

Please send direct to the Treasurer:

Mrs. Margaret Jones
2 Brockway Close,  Baglan,  PORT TALBOT, SA18 8EL

Please accept my/our financial help for the Fellowship’s work.

 

On behalf of..........................................Denomination.........................
Personal Gift

Name (Rev., Mr., Mrs., Miss.,)............................

£ ...........p

Address...................................................................................................

..................................................................................................................

Receipt required ? Yes/No.................................................................


For a printable form click here


 

Ymweliad Cofiadwy yn Shillong

 Gan Margaret Jones (trysorydd y Gymdeithas)

 
Pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed, penderfynais i fynd i Shillong.. Hanner can mlynedd o aros - cael addysg, priodi, magu plant, gofalu am fam dilyn gyrfa ond o’r diwedd, yn 66 oed, gwireddwyd y freuddwyd.

 Ar ôl dod nôl, wedi synnu at bopeth a welais ac a brofais, ac ar gais ein hysgrifennydd, bwrw  ati i ysgrifennu pwt o adroddiad. Etifeddiaeth yw enw’r cylchgrawn ac felly mae’ n addas iawn sôn am ein hetifeddiaeth a’r ffordd fe’i trosglwyddwyd i wlad bell.

Pobl hawddgar, hardd yw pobl Casia, yn ymhyfrydu yn eu hiaith a’u diwylliant ac ar yr un pryd yn ddiolchgar am bob peth yr etifeddwyd gan ein gwlad fach  ni. Braint oedd cael cwrdd â nhw, a gweld y ffordd maen nhw wedi rhagori ar bopeth derbyniwyd ganddynt.

Ces i gwmni dwy Gymraes ar fy nhaith. Janice Jones o Aberaeron oedd un. Mae Janice wedi  gwirfoddoli sawl gwaith o dan nawdd CWM yn Affrica, Rwmania ac ym mryniau Casia. Bu hi’n gweithio mewn cartref i blant am chwe mis, deng mlynedd yn ôl, yn gwneud gwaith clodwiw ac effeithiol iawn gyda phlant amddifad yn Shillong.

Fy nghydymaith arall oedd Bethan  Richards o Abertawe. Ganed Bethan yn ysbyty Gordon Roberts yn Shillong yn ferch i ddau genhadwr. Daeth hi nôl i Gymru yn bum mlwydd oed, ond yn ei hugeiniau daliai ar gyfle i fynd nôl i ddysgu yno gyda brwdfrydedd. Ar ôl dwy flynedd o waith arbennig o dda, nôl eto i Gymru 41 mlynedd yn ôl.

Ie, Janice heb fod yno ers deng  mlynedd a Bethan ers 41 o flynyddoedd! A finnau ar fy ymweliad cyntaf. Braidd byddai neb yn gwybod amdanom nag yn ein cofio. .Ond na, fe gawson ni groeso arbennig o dwym galon gan bobl oedd dim yn unig yn cofio Janice ar ôl deng mlynedd, dim yn unig yn cofio Bethan ar ôl 41 o flynyddoedd ond yn cofio mam a  thad Bethan hefyd. Anhygoel!

Anhygoel yn wir oedd y profiad, gweld plant a phobl ifanc yn tyrru i’r cwrdd, gweld cynulleidfaoedd o filoedd yn ymgynnull, mynd i ffair haf a rali genhadol a gynhaliwyd i godi arian at ddathlu daucanmlwyddiant Thomas Jones, y cenhadwr cyntaf i fynd yno.

Ces i sawl profiad pen mynydd yno ac yn sicr mae’r Ysbryd Glân yn dal i weithredu yno mor rymus ac erioed. Cofiwch fryniau Casia yn eich gweddïau yn 2010. Maen nhw wedi addo gweddïo drosom ni.

 A fwynheais? Do mas draw
Ydw i’n mynd nôl? Ydw, yn ddiamheuaeth.
Ewch yno ar bob cyfrif – fe gewch chi fodd byw.

 

 

Top of Page