Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

ADNODDAU / RESOURCES

Diwinydda yn Genesis

gan y Parchedig Ddr D Ben Rees

Yn ei ragair i’w esboniad gwerthfawr ar Lyfr Genesis fe ddywed John Calfin y geiriau hyn:

If my readers wish to profit with me in meditating on the works of God, they must bring with them a sober, docile, mild, and humble spirit.

Gwêl Calfin lyfr Genesis fel cyfrol sydd yn llawn sialens, hanesion a digwyddiadau a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i’r llall. Y traddodiad llafar yn sail i’r traddodiad ysgrifenedig. Wrth weld pwynt Calfin, mae’n amlwg fod un gair ar goll yn ei restr ef, sef y gair dewr. Ni wn pa a ddywedodd, ‘Biblical faith demands courage’, ond y mae yn llygad ei le. Nid ar gyfer y gwan ei feddwl na gwan ei ewyllys na gwan ei galon mo’r Ysgrythurau, ond ar gyfer y cyfrin mewn deall, ewyllys ac ymroddiad. Y mae’r Ysgrythur o hyd ac o hyd am i ni feddwl o ddifrif, ni allwn eistedd i lawr yn hamddenol, cawn ein cyflyru i ystyried hanfodion mwyaf bywyd. Gwir y dywedodd y Talmud ‘The righteous have no rest, neither in this world nor the next.’ Sut allwn ni orffwys ar ein rhwyfau pan mae ein cymdeithas ag angen arweiniad? Sut y gallwn ni ymlacio pan mae pobl yn dioddef o law'r greadigaeth ac o Greawdwr y Byd? Beth yw’r Sul yn y Gymru gyfoes, ond protest y gweddill ffyddlon yn erbyn cymdeithas sydd wedi colli eu pennau yn siopa ac wedi mynd yn glustfyddar i lais y cennad?
Y mae’n amhosibl cerdded llwybrau bywyd heb gydwybod o ble y daeth y gydwybod. Dyma lais distaw Duw yn ein corff, gair arall ydyw am gyfrifoldeb a bywyd gwareiddiedig ymgais i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Dadleua Calfin fod Adda ac Efa yn meddu ar gyfrifoldeb. Ond gwyddom yn dda nad yw’r byd na’n cymdeithas yn mynd i wella o gwbl heb chwyldro sy’n golygu, adeiladu, newid a gwella'r byd yn sgil y cyfan y Beibl yn ôl Genesis yw galwad Duw i gyfrifoldeb dynol. Duw sy’n rhydd o hualau yw Duw llyfr Genesis, Duw sy’n gweithredu yn hanes y rhai a alwodd ef i wasanaethu ac i adnewyddu Cyfamod ar ôl Cyfamod. Cawn storiâu cyffrous i’n poeni, sef Adda ac Efa, Cain ac Abel, Noa a’r Diluw a Thŵr Babel. Nid hanes sydd yma ond patrwm ar gyfer dynion a merched ym mhob oes. Athroniaeth a drama a phregethu yw hanfod yr hanesion hyn. A’r llinyn sydd yn clymu’r athroniaeth a’r dramâu cyffrous hyn yw mor barod ydan ni i roi’r bai ar rywun arall. Rhoddodd Adda y bai ar Efa. Ond ni ellid tawelu’r llais, sef y gydwybod. Nid rhyfedd i Adolf Hitler alw’r gydwybod yn ddarganfyddiad Iddewig. Ond o’r cychwyn cyntaf cawn ein hunain yn ceisio dianc rhag ein cyfrifoldeb. Gwelwn ein hunain mewn enbydrwydd. Daw trais i anharddu ein byw. Gwelwn ein hunain yn cywilyddio am ein gilydd. Pwy oedd â chywilydd o Noa? Wel ei feibion. Gwelwn Noa yn ei drachwant. Achub ei hunan a’i deulu oedd ei ddymuniad pennaf a dau o bob peth byw. Ni chlywn amdano yn ceisio achub bywyd neb o’i gymdogion. Nid oedd Noa yn teimlo cyfrifoldeb dros ei gyfoedion, a bu’n brin o eiriol drostynt. Er bod Noa yn cael ei alw yn ŵr cyfiawn, mae’n amlwg iddo fethu cofleidio’r gymuned a’i fyd. Nid oes y fath beth mewn bod i Noa â chyfrifoldeb sy’n cyfuno ei deulu a’r gymdeithas gyfan. Collodd Adda baradwys. Condemniwyd Cain i grwydro’r byd. Dirywiodd Noa yn feddwyn. Gadawyd Tŵr Babel heb ei gwblhau. Gwelwn ddiffyg cyfrifoldeb. Bu’n rhaid aros i ddyfodiad y proffwydi a’r proffwyd pennaf ohonynt i gyd, yr Arglwydd Iesu i newid y sefyllfa. Heb yr Iesu yr ydym ni yn sefyllfa Adda a Chain a Noa a thrigolion anhrefnus Tŵr Babel. Hel plant ar goll. Daeth Crist y Pasg a chydwybod a chyfrifoldeb yn waddol yr alwad.

 


Welsh words
William Williams, Pantycelyn


Marchog Iesu, yn llwyddiannus
Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun;
Ni all daear dy wrthnebu,
Chwaith nag uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy’r greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.

Tyn fy enaid o’i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd:
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan, megis tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.

Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed:
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
‘Mewn i Salem bur ynghyd.


Llyfr Emynau a Thonau y
Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd
1929

 
English words by
Rev E Cynolwyn Pugh, New York City


Mighty Jesus, ride victorious, Savior,
Gird they sword for battles strong:
Earth can never dare oppose thee,
Nor can hell withstand thee long:
And thy name is so illustrious,
Every foe will flee away;
Through creation runs thy terror:
Come then, Lord, do not delay.

From its serfdom loose my spirit,
May I soon the day-dawn see,
Break in pieces Babel’s portals,
Every iron bar set free:
Forth let bondslaves in vast legions
Come, like floods so wild and strong,
Multitudes in endless numbers,
Praising God in glorious song.

Nor I shall rejoice in triumph
That the Jubilee draws near,
When each word that Jesus uttered
Will His trust make crystal clear:
North and South in countless millions
Come they will from earth’s dark shores,
With a dance and silver trumpets,
In through Salem’s open doors.

 

 


 

Top of Page